[Pennill 1]
Croeso i'r Rhyngrwyd! Cymra foment nawr
Unrhywbeth sydd ar dy feddwl, gellir ddod ar draws
Mae mynyddoedd o gynnwys, rhai'r gorau, rhai'n waeth
Os does dim 'ma sy'n dy ddiddori does dim a wnaiff
[Pennill 2]
Croeso i'r Rhyngrwyd! 'Steddwch, cymra sbel
Hoffet pori'r tywydd, traed pob un enwogyn sydd i'w gweld?
Does dim angen dychryn, nid prawf yw hon, haha
Nodia neu ysgwyd ben, a byddwn ni'n llon
[Pennill 3]
Croeso i'r Rhyngrwyd! Beth sy'n well gen ti?
Ymgyrchu hawliau neu'n trydaru'n hiliol trwy'r holl dydd?
Bydd hapus! Bydd chwantus! Bydd llawn gwylltineb!
Mae gennym filiwn ffordd i rannu'th wyneb
[Pennill 4]
Croeso i'r Rhyngrwyd! Anghofia am dy boen
Dyma dip i hidlo pasta ; dyma foi 'naeth colli'w groen
Mae ffilmiau a meddygon, campau ffantasi
A lluniau pensil lliw di-ri o bob gymeriad Harri Potter yn cnychu'i gilydd—
[Pennill 5]
Croeso i'r Rhyngrwyd!—Cadwa afael ar dy ben
'Chos mae ddyn caredig newydd anfon lluniau o'i bidlen-
Maen nhw'n aneglur, ac annifyr; mae'n anfon nhw 'to
Paid coegio'n syndod—ti sy'n hoffi nhw'r hŵr
[Pennill 6]
Gwylia ddienyddiad, cael apwyntiad, derbyn fraw
Dangos luniau o dy blant, dyweda am bopeth a daw
Gwisga fwmbwr, pryna gwlltwr, hala fygwth i hen fŵmyr
Neu DMia ferch i'w grŵmio, gwna basŵmyr, ffeindia diwmor yn dy—
Dyma opsiwn frecwast iachus, dylet ladd dy fam
Does 'na neb am fwchio di yr erthygl 'ma sy'n dweud pam
Pa Power Ranger wyt ti? Ys gwn i, cymra'r cwis
Obama helodd y mudwyr i frechu dy blentyn
[Cytgan]
Gallai dy ddiddori ym mhopeth, trwy'r amser?
Ychydig bychan o bopeth, trwy'r amser
Mae apathi yn drasiedi, diflastod sy'n drosedd
Unrhywbeth a phob un peth, trwy'r amser
Gallai dy ddiddori ym mhopeth, trwy'r amser?
Ychydig bychan o bopeth, trwy'r amser
Mae apathi yn drasiedi, diflastod sy'n drosedd
Unrhywbeth a phob un peth, trwy'r amser
[Anterliwt ar Lafar]
Wsti, doedd hi ddim wastad fel hyn
[Pont]
Nid yn rhy hir yn ôl, ond jyst cyn dy oes
Syth cyn syrthiodd y tyrau, oddeutu '98
Hon oedd catalogs, a hen flogs, 'stafell sgwrsio neu dri
Treuliom y nos, yn aros, aros… iti!
Ti, yn anniwall, ti
Rhoddodd Mami ti yr iPad ; ro't ti prin yn dri
A wnaeth hi pob dim cafodd ei dylunio i
Nawr 'drych arnat ti! O, sbïa arnat ti!
Ti, ti! Dianwadal, diatal
Dy oes sy'n glir, gwybodaeth bur, gwêl sut dyfaist di
A phwy a ŵyr beth wnei di yn aros 'da fi?
Roedd hi'r gynllun o hyd- dy afael di ar y byd
[Saib]
(*Chwerthin*)
[Cytgan]
Gallai dy ddiddori ym mhopeth, trwy'r amser?
Ychydig o bopeth, trwy'r amser
Mae apathi yn drasiedi, diflastod sy'n drosedd
Unrhywbeth a phob un peth, trwy'r amser
Gallai dy ddiddori ym mhopeth, trwy'r amser?
Ychydig bychan o bopeth, trwy'r amser
Mae apathi yn drasiedi, diflastod sy'n drosedd
Unrhywbeth a phob un peth ac unrhywbeth a phob un peth
Ac unrhywbeth a phob un peth a-
Trwy'r amser