Gruff Rhys
Taranau Mai (Muzi Remix)
Taranau Mai yn treiddio mêr fy esgyrn
Taranau Mai’n tanseilio dur y plisgyn
A’r gwlan ar wifren yn y gwynt
Dyfroedd poeth yn tasgu hyd fy ngwegil
Dyfroedd coeth yn gaddug o gorun i sawdl
A’r croyw yn galed ar fy ngwâr
Mellt a glaw yn gorwynt drwy y brigiau
Ysgwyd a braw tra ffrwydraf yn [?]
Nid noson lawen mohono
Elfennau oer yn crynu fy nghydwybod
Gwaed a phoer yn cronni yn mynwes fy ngwddwg
A’r cwmwl yn tanio uwchben