Gruff Rhys
Niwl o Anwiredd (Muzi Remix)
Gyrru drwy niwl o anwiredd
Ble yn y byd mae’r gwirionedd?
Ble mae’r golygfeydd godidog?
Ble mae min y weiren bigog?

Mewn niwl o anwiredd
Mewn niwl o anwiredd

Mellt yn tanio y tywyllwch
Does dim golau, dim ond dryswch
Heibio’r pydew, drwy y fagddu
Oglau pwdr cyfaddawdu

Drwy niwl o anwiredd
Mewn niwl o anwiredd
Drwy niwl o anwiredd
Mewn niwl o anwiredd

Gyrru drwy niwl o anwiredd
Crafangu y llyw yn dynn a’m gwinedd
Canu’r corn â charreg atsain
Tonfeddau radio mor amhersain

Drwy niwl o anwiredd
Mewn niwl o anwiredd
Drwy niwl o anwiredd
Mewn niwl o